CARN: y mynegai Creiddiol i gofnodion archaeolegol
English
 

Rhagymadrodd

Croeso i adran ar-lein y gronfa ddata lle gallwch chwilio CARN (Y Mynegai Creiddiol i Gofnodion Archaeolegol), sef mynegai i wybodaeth sydd gan gyrff treftadaeth yng Nghymru.

Yn CARN cewch wybodaeth sylfaenol sy'n rhoi mynediad i'r cofnodion manylach sydd gan bob sefydliad unigol. I gael gwybod rhagor am safle, rhowch y cyfeirnodau perthnasol i'r corff perthnasol drwy ddefnyddio'r cyswllt e-bost i'r corff hwnnw neu, yn achos cofnodion y Comisiwn Brenhinol, dilynwch y cyswllt i gronfa ddata Coflein neu holwch drwy ddefnyddio'r ffurflen ymholi ar-lein.

Sylwch y bydd y chwiliadau'n holi pob cronfa ddata yn CARN, ac y gall cofnodion gael eu dyblygu o fwy nag un ffynhonnell. Gallwch hefyd chwilio CARN gan ddefnyddio map cliciadwy.

Gellir chwilio ar sail testun drwy gyfrwng chwiliad syml (chwilio pob maes yn ein cronfa ddata) neu drwy chwilio'n fwy manwl i leoli gwybodaeth yn fwy manwl-gywir. Gellir hefyd glicio ar fap o Gymru a fydd yn dychwelyd y canlyniadau ar sail y lleoliad. Sylwch: ni chewch ddarllen mwy na 100 o gofnodion ar y tro. Cadwch lygad ar yr adran hon o'r wefan. Byddwn yn trefnu i ragor o gronfeydd data gwybodaeth fod ar gael cyn gynted ag y gallwn.

Ar hyn o bryd, nid yw'r cronfeydd data ond ar gael yn Saesneg.

Ymchwilio

Rhagarweiniad
Chwilio Cronfeydd Data
Chwilio Mapiau
Chwilio Pelter
Chwilio Manwl
Help
 

Partneriaid

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cadw
Amgueddfa Cymru
Archaeoleg Cambria
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys
Ymddiredolaeth Archaeolegol Gwynedd
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent